Croeso i Gaergrawnt!
Mae Jonathan Padley, y Tiwtor cyfrifol am dderbyn myfyrwyr yng Ngholeg Churchill (un o’r Colegau Cyswllt Rhanbarthol dros Gymru), wedi ysgrifennu’r wefan hwn i’ch helpu chi, ymgeisydd posibl o Gymru, ddarganfod gwybodaeth ddefnyddiol. Mae Jonathan yn ddiolchgar am gymorth ac arbenigedd Sandy Mill wrth baratoi’r wefan.
Rydym ni eisiau denu’r myfyrwyr gorau o’r Deyrnas Unedig gyfan i Gaergrawnt, can gynnwys myfyrwyr o Gymru. Roedd ein hwb HE+ gyntaf tu allan i Loegr yn Abertawe, ac roedd hwn yn enghraifft bwysig wrth i Lywodraeth Cymru sefydlu Seren. Gwnaeth ymchwilwyr Caergrawnt helpu sefydlu Seren ac mae’r brifysgol o hyd yn cyfrannu iddi. Mae mwy a mwy o fyfyrwyr o Gymru wedi ymgeisio i Gaergrawnt dros flynyddoedd diweddar, ac rydym ni’n croesawi hwn. Rydym ni eisiau derbyn amrywiaeth o fyfyrwyr sy’n adlewyrchu’r Deyrnas Unedig gyfan.
Anghenion mynediad
Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr sy’n ymgeisio i astudio yng Nghaergrawnt yn gwneud TGAU a Lefelau A. Yn wahanol i nifer o brifysgolion eraill, nid ydy Caergrawnt yn cyfnewid y rhain (nac unrhyw gymwysterau arall) i bwyntiau UCAS. Nid ydym chwaith fel arfer yn cynnwys y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru) yn ein cynigion i ymgeiswyr. Fel arfer, mae ein hanghenion mynediad wedi’u gosod ar sail tri Lefel A.
I ddarganfod mwy, dewiswch bwnc gradd o’r rhestr cyrsiau ac edrychwch ar y tab Anghenion Mynediad. Sylwch fod “cynigion arferol” yn amrywio o goleg i goleg, felly gwiriwch hefyd anghenion mynediad y colegau (ar yr un dudalen). Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ewch i’r dudalen cysylltu â cholegau a chysylltwch gydag un o’r Swyddfeydd Mynediad.
Blwyddyn Sylfaen
Os ydych chi am astudio am radd yn y Dyniaethau neu’r Gwyddorau Cymdeithasol, ond heb gael y cyfle i ddewis y pynciau Lefel A angenrheidiol, mae’n bosib i chi ymgeisio i wneud Blwyddyn Sylfaen. Mae mwy o wybodaeth ar dudalen y Flwyddyn Sylfaen, gan gynnwys esboniad o bwy sy’n gymwys i gynnig amdani.
Ymgeisio
Dylai ymgeision fynd trwy UCAS. Mae mwy o fanylion am Gaergrawnt a sut i ymgeisio ar ein gwefan astudiaethau israddedig.
Cyllid myfyrwyr
Yn aml, mae gan ymgeiswyr o Gymru gwestiynau am gyllid myfyrwyr a’r cymorth sydd ar gael yng Nghaergrawnt i helpu talu am ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o wybodaeth am hwn ar dudalen ffioedd a chyllid y brifysgol.
Rydym ni’n credu na ddylai unrhyw fyfyriwr cymwys cael ei hatal rhag derbyn cynnig i astudio yng Nghaergrawnt oherwydd ei sefyllfa ariannol. Mae pob myfyriwr o’r Deyrnas Unedig yn cael ei hystyried ar gyfer Cynllun Bwrsari Caergrawnt, sy’n dibynnu ar incwm eich cartref, ac sydd ddim angen ei dalu nôl. Am fwy o wybodaeth am y bwrsari a chynlluniau nawdd eraill sydd ar gael yng Nghaergrawnt, ewch i gymorth ariannol.
Mae hefyd cymorth ar gael i fyfyrwyr o Gymru oddi wrth Gyllid Myfyrwyr Cymru (Student Finance Wales). Ar eu gwefan mae llawer o wybodaeth am hwn, a gallwch chi ddarganfod faint fedrwch chi fenthyg i helpu gyda chostau byw.
Teithio
Mae tri thymor, wyth wythnos o hyd, mewn blwyddyn academaidd yng Nghaergrawnt. Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr israddedig yn aros yng Nghaergrawnt am yr wyth wythnos gyfan, a dim ond yn mynd adref yn ystod y tymor ar ychydig o adegau. Felly, heblaw bod yna amgylchiadau arbennig, fel arfer mae myfyrwyr yn dod i Gaergrawnt ar ddechrau tymor ac yn gadael eto ar y diwedd yn unig.
Rydym ni’n gwybod bydd rhai myfyrwyr o Gymru yn gorfod teithio’n bell i gyrraedd Caergrawnt gydag amser taith hirach na nifer o fyfyrwyr eraill o fewn y DU. Dyma rhai enghreifftiau o amseroedd teithio i’ch helpu chi weithio mas eich taith chi.
Trenau: gellir cyrraedd Caergrawnt ar y trên, er enghraifft o Fangor (5 i 7 awr), Hwlffordd (dan 7 awr), ac Aberystwyth (6 i 7 awr). Bydd rhaid newid trên ar bob un o’r teithiau yma. Gellir cyrraedd Caergrawnt o Wrecsam mewn 4 awr ac mae’r trên o Gasnewydd i Gaergrawnt yn cymryd 3 awr a hanner.
Gyrru: fel gyda’r trenau, os ydych chi’n dod o orllewin Cymru bydd hi’n cymryd mwy o amser i chi gyrraedd Caergrawnt. Os ydy’r traffig yn dda, gellir gyrru i Gaergrawnt o Aberdaugleddau o fewn 6 awr, ac o Gaergybi neu Llanbedr Pont Steffan mewn tua 5 awr. Os ydych chi’n teithio o ddwyrain Cymru bydd y daith yn gynt o lawer.
Cwestiynau cyffredin
Yng Nghymru, nid ydy Lefelau AS ac A yn llinol fel yn Lloegr. Yn lle hynny, maen nhw’n dilyn strwythur unedau, ac mae’r graddau yn dilyn graddfa marciau UMS (“uniform mark scale”). Mae ffiniau graddau yn yr un lle pob blwyddyn, felly, er enghraifft, yn gyffredinol 80% UMS yw ffin gradd A. Gyda chymwysterau fel Lefel AS lle mai A yw’r radd uchaf, mae hwn yn golygu bydd unrhyw farc UMS rhwng 80% a 100% yn derbyn gradd A. Mae hwnnw’n amrediad mawr yn y marciau sy’n dod o fewn un radd. Felly mae Caergrawnt yn gofyn am eich marciau UMS, nid jyst y radd, ar gyfer unrhyw unedau Lefel AS ac A, achos maen nhw’n rhoi mwy o fanylion i ni am eich cyrhaeddiad. Mae’r data ychwanegol yma yn help mawr i ni – mae tystiolaeth yn dangos bod myfyrwyr gyda marciau UMS ardderchog ar draws eu pynciau Lefel AS ac A yn debyg o lwyddo yn ein cyrsiau yng Nghaergrawnt.
Tra bod Caergrawnt yn croesawu’r ffaith bod y Fagloriaeth Cymraeg yn datblygu sgiliau hanfodol ac yn paratoi myfyrwyr am fyd gwaith, rydym ni’n ffocysu ar sgiliau academaidd wrth asesu ymgeision. Felly, os ydych chi’n bwriadu gwneud Bagloriaeth Cymru, ein prif ddiddordeb ni yw eich Lefelau A, nid y DHSU.
O fewn y DHSU, mae’r Prosiect Unigol yn gallu bod yn berthnasol i’ch ymgais i Gaergrawnt. Mae myfyrwyr yn aml yn defnyddio’r prosiect fel cyfle i gloddio’n ddyfnach i ba bynnag pwnc maen nhw eisiau astudio am eu gradd. Mae’r Prosiect Unigol felly yn gallu bod yn fuddiol mewn modd tebyg i’r EPQ, gan gynorthwyo myfyrwyr i ddatblygu sgiliau astudio’n annibynnol a sgiliau ymchwil sy’n werthfawr iawn i’w hastudiaethau yn y brifysgol.
Ar gyfer ychydig o bynciau yng Nghaergrawnt mae Lefel A Mathemateg Bellach yn angenrheidiol, neu mae’r mwyafrif o fyfyrwyr wedi’i hastudio hi. Os oes gennych ddiddordeb mewn un o’r pynciau yma, mae’n hanfodol eich bod yn siarad gyda’ch ysgol neu goleg cyn gynted â phosib i ofyn a fedran nhw drefnu i chi gael cymryd Lefel A Mathemateg Bellach.
Os nad yw hynny’n bosib, trafodwch gyda nhw a oes modd i chi wneud y Lefel A yn annibynnol trwy’r ysgol, neu mewn canolfan lleol arall, neu gyda chymorth Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach Cymru.
Mae myfyrwyr yn dod ar draws y byd i Gaergrawnt, ac mae gan nifer fawr o’n hymgeiswyr pob blwyddyn iaith gyntaf heblaw am y Saesneg, gan gynnwys y rheini sy’n siarad a/neu yn astudio yn y Gymraeg. Er hynny, mae pob cwrs yng Nghaergrawnt yn cael ei ddysgu trwy gyfrwng y Saesneg, ac felly mae’n rhaid i ymgeiswyr, o le bynnag maen nhw’n dod, ddangos bod eu Saesneg yn ddigon safonol i fedru llwyddo yma.
Byddech chi’n cyflenwi eich ffurflenni ymgais, gwneud unrhyw asesiadau, a danfon unrhyw enghreifftiau o’ch gwaith yn Saesneg. Mae croeso i chi ddanfon cyfieithiad Saesneg o waith ysgol a gafodd ei gyflawni yn wreiddiol yn y Gymraeg – dim ond rhaid i’ch ysgol gadarnhau bod y cyfieithiad yn gywir. Bydd eich cyfweliadau hefyd yn y Saesneg, a bydd disgwyl i chi fedru mynegi eich syniadau mewn iaith safonol a chlir. Ond, peidiwch â phoeni os ydych chi’n gwneud camgymeriad ieithyddol, anghofio gair, neu’n gwybod geirfa dechnegol yn y Gymraeg ac nid yn Saesneg! Os ydy hwn yn digwydd, esboniwch y broblem i’ch cyfwelwyr a disgrifiwch y syniad iddyn nhw. Gwall bach yw anghofio gair, sy’n digwydd yn aml mewn cyfweliadau, ac mae’n bosib ffeindio ffordd i weithio trwy’r broblem.
Wrth dderbyn eich ymgais yn y Saesneg, ni fyddem yn gwybod mai Cymraeg yw eich iaith gyntaf neu iaith eich addysg. Bydd rhaid i chi neu’r person sy’n ysgrifennu eich geirda UCAS yn gadael i ni wybod rhywle ar y ffurflen ymgais. Does dim rhaid i chi wneud hyn, wrth gwrs, ond mae gwybodaeth gyd-destunol fel hyn yn aml yn ddefnyddiol i ni.
Mae Caergrawnt am sicrhau ein bod yn cynnig llefydd i’r myfyrwyr sydd â’r potensial academaidd orau, o bob cefndir cymdeithasol, hiliol, crefyddol, ac ariannol. Er mwyn llwyddo yn y nod yma, rydym ni’n asesu pob ymgeisydd mewn ffordd holistig gan ddefnyddio’r holl wybodaeth sydd ar gael i ni. Fel rhan o’r broses yma, mae’r brifysgol yn asesu gwybodaeth ychwanegol sy’n rhoi argraff fwy cyflawn o’r amodau cymdeithasol ac addysgol sydd tu ôl i ymgeision, cyrhaeddiad addysgol, a pherfformiad myfyrwyr yn ein hasesiadau ni. Gellir darllen mwy am hynny ar ein tudalen data cyd-destunol. Yn gyffredinol, cyn fwyaf o wybodaeth gyd-destunol rydym ni’n derbyn amdanoch chi, y gorau rydym ni’n gallu deall eich ymgais. Rydym ni felly’n eich annog i ddanfon atom ni pa bynnag wybodaeth berthnasol yr ydych chi’n gyffyrddus ei rannu, yn enwedig gwybodaeth ynglŷn â chi fel unigolyn a’ch addysg nad ydym yn gallu ffeindio mas oddi wrth ddata cod post.
Esboniwch i’r person sy’n ysgrifennu eich geirda UCAS nad ydym ni fel arfer yn derbyn gwybodaeth am berfformiad arferol ysgolion Cymraeg mewn arholiadau TGAU a Lefel A, nac os ydy’r ysgol yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym ni felly’n ddiolchgar iawn pan maen nhw’n cynnwys gwybodaeth o’r fath yn eu geirda, gan gynnwys manylion rhifol am eich cyrhaeddiad o gymharu gyda’ch blwyddyn ysgol.
Mae gweithgareddau uwch-gyrsiol yn wahanol i rai allgyrsiol. Mae gweithgareddau allgyrsiol ar wahân i’ch pynciau ysgol ac nid ydynt yn berthnasol i’ch astudiaethau. Mae gweithgareddau uwch-gyrsiol yn datblygu’r pynciau rydych chi’n eu hastudio yn bellach, tu hwnt i beth rydych chi’n dysgu yn yr ysgol neu goleg.
Nid yw’n angenrheidiol i wneud gweithgareddau uwch-gyrsiol er mwyn ymgeisio i’r brifysgol. Ond, os ydych chi’n meddwl ymgeisio i brifysgol gystadleuol fel Caergrawnt, sy’n derbyn mwy o ymgeision oddi wrth fyfyrwyr cymwys nag sydd llefydd ar gael, mae’n sicr bydd gweithgareddau uwch-gyrsiol yn gwella’ch ymgais. Gall gymryd rhan mewn gweithgareddau uwch-gyrsiol helpu chi ddatblygu eich datganiad personol, gwneud chi’n fwy hyderus yn eich pwnc, dangos eich bod yn cymryd eich astudiaethau a’ch pwnc o ddifri, profi eich bod yn ymgeisydd sy’n perfformio’n uchel o gymharu gyda myfyrwyr eraill, a’ch galluogi i drafod amrywiaeth o syniadau yn ddyfnach mewn cyfweliad. Hynny yw, rydyn ni wir yn argymell cymryd rhan mewn gweithgareddau uwch-gyrsiol. A, rhag ofn bod camddealltwriaeth: nid oes rhaid i weithgareddau uwch-gyrsiol costio arian. Edrychwch ar y tudalen gweithgareddau uwch-gyrsiol i ddarganfod rhai syniadau.
Mae 29 coleg israddol ym mhrifysgol Caergrawnt, gan gynnwys dau i fyfyrwyr benywaidd yn unig, a thri i fyfyrwyr dros 21 mlwydd oed. Mae croeso i chi gynnig am ba bynnag coleg rydych chi eisiau, neu wneud ymgais agored (sy’n golygu bydd algorithm cyfrifiadurol yn dewis coleg drosoch chi). Mae cyngor ar gael ar dudalen dewis coleg.
Fel y dywedir uchod yn y rhan am anghenion mynediad, mae “cynigion arferol” ac anghenion y pwnc yn gallu bod yn wahanol gan ddibynnu ar y coleg. Sicrhewch eich bod wedi gwirio’r rhestr o anghenion mynediad yn ôl coleg (gellir lawr lwytho’r rhestr hon o dudalen proffil eich cwrs dewisedig).
Mae rhaglen Gyswllt Ranbarthol Caergrawnt yn golygu bod pob ardal yn y Deyrnas Unedig wedi’i gysylltu gyda choleg penodol yn y brifysgol. Y colegau Cyswllt Rhanbarthol dros Gymru yw Churchill (Canolbarth a De Cymru) a Magdalene (Gogledd Cymru), felly mae gan y colegau yma profiad arbennig o redeg rhaglenni addysgol yng Nghymru ac o weithio gydag ysgolion a cholegau Cymraeg, yn ogystal â Seren. Er hynny, nid oes rhaid i chi ymgeisio am un o’r colegau yma, oni bai eich bod chi eisiau gwneud. Mae’r dewis lan i chi yn llwyr.
Mae’r tymor yng Nghaergrawnt yn fyr ac yn brysur, felly nid ydym yn argymell i fyfyrwyr israddol weithio mewn swydd ran-amser yn ystod y tymor. Mae croeso i unrhyw fyfyriwr weithio yn ystod y gwyliau os ydyn nhw eisiau, ac mae cymorth ychwanegol ar gael os ydych chi’n poeni am arian. Gweler ein tudalen cymorth ariannol am fwy o wybodaeth.
Fel arfer, mae myfyrwyr israddol yn byw mewn llety coleg trwy gydol eu hastudiaethau, ond mae’n debyg bydd rhaid i chi glirio’ch ystafell a’i gadael yn wag dros y gwyliau. Mae gan y colegau lefydd i storio’ch pethau, ond yn aml nid oes digon o le i bopeth, felly os bydd hi’n anodd i chi gludo’ch pethau adref, mae’n bwysig trefnu gyda’ch coleg o flaen llaw i gael defnyddio’r storfa.